Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 2 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.30 - 12.44 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jo Salway, Llywodraeth Cymru Matt Denham Jones, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)
Don Peebles (Cynghorwr Arbenigol) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Adroddiad rhag-gyllidebol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)
1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Don Peebles, Cynghorwr Arbenigol.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
2.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Cyllideb Atodol 2014-2015: Ymateb Llywodraeth Cymru
4 Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16
4.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon ac eitem 8 gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
4.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16 gyda'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.
4.3 Cytunodd y Llywydd i godi'r mater ynghylch tywyswyr yn casglu nodiadau Aelodau o'r Siambr i helpu gyda Chofnod y Trafodion yn y cyfarfod nesaf. Hefyd, ymrwymodd i ymchwilio i'r posibiliadau o ran opsiynau teithio amgen ar gyfer ymweliadau addysgol gan ysgolion.
4.4 Cytunodd Claire Clancy i edrych ar y materion hawlfraint sy'n ymwneud â'r adroddiad Ymddiriedolaeth Garbon a sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau os yn bosibl ac i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pwy sy'n berchen Tŷ Hywel.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.
5.2 Nododd y Cadeirydd y byddai'n gofyn i'r pwyllgor perthnasol i archwilio gyda'r Gweinidog portffolio os bydd y toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cael eu cyflwyno yn gyfartal ar draws Cymru, neu a fydd rhai ardaloedd cael toriadau mwy.
5.3 Cytunodd y Gweinidog i:
· ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro'r sefyllfa o ran ardrethi annomestig ar yr amod nad yw'n tanseilio trafodaethau gyda Llywodraeth y DU;
· rhannu â'r Pwyllgor rhywfaint o'r cyngor cynnar y mae'r Llywodraeth wedi ei gael ar y broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp;
· cadarnhau'r trefniadau ar gyfer dyrannu arian i Awdurdodau Lleol yn benodol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol;
· darparu ragor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y posibilrwydd o gael porth sgiliau i oedolion mewn perthynas â gwasanaeth Gyrfa Cymru;
· gwirio cyhoeddi gwerthusiad ar y Grant Amddifadedd Disgyblion a rhoi manylion i'r Pwyllgor; a
· rhoi manylion i'r Pwyllgor am gyllid buddsoddi-i-arbed.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
7.1 Ymatebion i'r Ymgynghoriad - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16
8 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a nodi y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Hydref 2014.
9 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor
9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth.